Cymrodoriaethau presennol
Not stated
- Location
- Cardiff, United Kingdom
- Funding
- Leverhulme Trust
- Application deadline
- See university guidance
About the project
Ymunwch â ni a dod yn un o arweinwyr ymchwil Cymru yn y dyfodol.
Rydym yn credu mai Prifysgol Caerdydd yw un o’r lleoedd gorau yn y DU i fod yn ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa, ac rydym wastad yn chwilio am ddisgleirion y genhedlaeth nesaf i ymuno â ni. Os ydych am symud i Gaerdydd, yna byddem ni wrth ein bodd i fod eich sefydliad lletyol am un o’r llu o Gymrodoriaethau cystadleuol ac uchel eu bri sydd ar gael. Byddwn yn gweithio gyda chi i hybu capasiti ymchwil ryngwladol yng Nghymru. Gweler isod am rai o’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd.
Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig
Rydyn ni’n gwahodd ymchwilwyr i fynegi diddordeb mewn Cymrodoriaethau Ôl-ddoethuriaeth yr Academi Brydeinig. Prifysgol Caerdydd yw’r sefydliad a fyddai’n eich derbyn.
Cymrodoriaethau Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa Ymddiriedolaeth Leverhulme
Rydyn ni’n gwahodd datganiadau o ddiddordeb yng nghymrodoriaethau Ymddiriedolaeth Leverhulme i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, a fydd yn cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd.
Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie
Diben Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol MSCA yw helpu ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i wella eu sgiliau a'u rhagolygon gyrfa drwy weithio dramor.
Cymrodoriaethau Ymchwil Prifysgol y Gymdeithas Frenhinol
Mae'r cynllun hwn ar gyfer gwyddonwyr rhagorol sydd yng nghamau cynnar eu gyrfa ymchwil ac sydd â'r potensial i ddod yn arweinwyr yn eu maes.
Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI
Rydyn ni’n croesawu datganiadau o ddiddordeb gan ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am Gymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol (FLF) Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), a Phrifysgol Caerdydd fydd y sefydliad lletyol.
Uwch Gymrodyr Ymchwil ac Athrawon Talent Byd-eang
We are seeking international applicants for our Global Talent Senior Research Fellowships and Professorships.
Cymrodoriaeth Datblygu Gyrfa'r Gymdeithas Frenhinol
Cymrodoriaeth Datblygu Gyrfa'r Gymdeithas Frenhinol
Cymrodoriaethau Rhyngwladol yr Academi Brydeinig
Dysgwch fwy am Gymrodoriaethau Rhyngwladol yr Academi Brydeinig.
Cymrodoriaethau Rhyngwladol yr Academi Brydeinig
Mynegi diddordeb yng Nghymrodoriaethau Rhyngwladol yr Academi Brydeinig a Chymrodoriaethau Rhyngwladol Newton y Gymdeithas Frenhinol.
Cyfleoedd eraill am gyllid
Os nad yw’r cynlluniau hyn yn addas i chi, mae nifer o gyfleoedd eraill am gyllid a fydd yn eich galluogi i ddal cymrodoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rydym yn croesawu ymholiadau gan ddarpar ymgeiswyr am yr amrywiaeth o gynlluniau cyllid yn y DU, Ewrop a thu hwnt, sydd ar gael i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Rydym hefyd yn eich annog i gysylltu â darpar noddwr a/neu Bennaeth Ysgol ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod eich diddordeb.
Cynlluniau cyllido
Mae gan Brifysgol Caerdydd brofiad rhagorol o gefnogi ceisiadau am gymrodoriaethau. Mae nifer mawr o gynlluniau cyllido cymrodoriaeth ar gael i chi, ac mae rhai o’r mwyaf wedi’u rhestru isod. Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am eich cymhwysedd am bob un o’r cynlluniau hyn a pha lefel o gyllid sydd ar gael.
UKRI - UK Research and Innovation
- MRC (Cyngor Ymchwil Feddygol)
- EPSRC (Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg)
- NERC (Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol)
- BBSRC (Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol)
- AHRC (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau)
- ESRC (Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol)
- NC3R
- STFC (Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg)
- Lleoedd Ymchwil Prifysgol Gymdeithas Frenhinol
Cyrff a gefnogir gan Lywodraeth y DU
- Yr Academi Brydeinig
- Y Gymdeithas Frenhinol
Ewropeaidd a rhyngwladol
- Gweithredoedd Marie Skłodowska-Curie
- Grantiau Dechrau a Chyfnerthu ERC
- Rhaglen Gwyddoniaeth Arloesedd Dynol
Elusennau
- Ymddiriedolaeth Wellcome
- Ymddiriedolaeth Leverhulme
Elusennau meddygol
Cefnogir ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd gan nifer o elusennau meddygol mawr, y mae rhai ohonynt yn cefnogi ymchwil gyrfa gynnar drwy gymrodoriaethau. Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am y cyfleoedd hyn.
- Ymchwil Canser y DU
- Sefydliad Prydeinig y Galon
- Ymchwil Canser Cymru
- Versus Arthritis
- Ymchwil Alzheimer y DU
Cynlluniau cyllido gyda phroses fewnol y brifysgol
Mae gan y cynlluniau cymrodoriaethau canlynol broses frysbennu fewnol ar waith a dylech gysylltu â noddwr posibl a Phennaeth yr Ysgol i drafod eich ymchwil yn addas ac i dderbyn manylion ein proses asesu fewnol.
- AXA Research Fund
- RAEng
Cynlluniau cyllido ar gyfer gweithio hyblyg
Ar gyfer unigolion sydd angen gweithio hyblyg neu sy’n dychwelyd i ymchwil ar ôl egwyl yrfaol:
- Bwrsariaeth Cefnogi Dychwelyd i Ymchwil STFC
- Cymrodoriaeth Dorothy Hodgkin
- Cymrodoriaeth Daphne Jackson
- Cymrodoriaeth Ail-fynediad at Yrfa Ymchwil gyda Sefydliad Prydeinig y Galon
Gweithiwr Ymchwil Proffesiynol
Mae Prifysgol Caerdydd yn tanysgrifio i Research Professional sy’n dal gwybodaeth am filoedd o alwadau agored am bob disgyblaeth o dros 8,000 o gyllidwyr. Gweler gwefan Research Professional .